Mae gwaith Veronica Calarco yn delweddu un o ieithoedd Awstralia sydd mewn perygl, Kurnai, mewn perthynas â iaith leiafrifol, Cymraeg, a ddefnyddir ganddi i ddisodli’r iaith gryfaf, Saesneg, sef yr iaith y mae’r ddwy arall yn rhyngweithio â hi.
Trwy wneud printiau, paentio a gweu basgedi, mae gwaith Veronica yn archwilio enwi, geiriau, mythau, a synau sy’n dod i fod trwy gyfrwng y syniad o wlad.
Artist o Awstralia sy’n byw yng Nghymru yw Veronica Calarco. Ar ôl cwblhau gradd Gwneud Printiau a gradd Uwchraddedig ym maes Gwehyddu yn Sefydliad y Celfyddydau, Prifysgol Genedlaethol Awstralia ganol y 1990au gweithiodd am ddegawd yn arlunydd cymunedol yn Canberra, The Kimberleys ac Alice Springs, tan iddi yn y pen draw benderfynu canolbwyntio ar wneud ei gwaith celf ei hun. Yn 2004 treuliodd Veronica ddeufis o wyliau yng Nghymru. Arweiniodd hyn at bron i ddegawd o fyw rhwng Cymru ac Awstralia, cyn iddi benderfynu ymgartrefu fwy neu lai yn barhaol yng Nghymru. Yn 2014 fe gymerodd Veronica Safon Uwch yn Gymraeg a sefydlu Stiwdio Maelor, sef rhaglen breswyl i artistiaid yng Nghorris, Gwynedd. Yn 2015 dechreuodd ar Ddoethuriaeth ym maes Gwneud Printiau yn yr Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth.

Cynrychiola djambie / ffrindiau ddau ffrind sy’n teithio trwy wlad gyda’i gilydd. Mae’r ddwy goeden, â’u canghennau wedi’u lapio am ei gilydd yn cynrychioli ffrindiau gorau. Mae’r print yn rhan o gyfres o ddelweddau gair – lle mae pob delwedd yn cynrychioli gair o deitl y myth, sy’n adrodd hanes y ddau ffrind.

Ystyr Parteong yw basgedi yn yr iaith Kurnai. Cyfres o fasgedi yw’r Gosodwaith hwn a wnaed o brintiau a waredwyd – printiau gen i a gwneuthurwyr eraill. Mae pob basged yn dweud stori, yn datgelu’r stori mae’r gwneuthurwr printiau gwreiddiol yn ei dweud, y rheswm iddynt gael gwared â’r printiau, rhoi’r print, dewis yr edafedd a ffurf yr edafedd, a’r printiau sy’n cael eu creu trwy gyfrwng y gwehyddu.

Deillia’r ddelwedd hon o linell mewn myth Kurnai sy’n sôn am chwilen yn cyfarfod â dau ffrind. Cafodd y gwaith ei baentio pan oeddwn yn cwblhau cyfnod preswyl yn Ne Awstralia, yn gwersylla ar dir lle’r oedd coeden wedi’i gwahanu oddi wrth ddwy goeden arall gan ffens.
Veronica Calarco’s work visualises an endangered Australian language, Kurnai, in relation to a minority language, Cymraeg, which she utilises to displace the dominant language, English with which both languages interact.
Working in printmaking, painting and basket weaving, Veronica’s work explores naming, words, myths and sounds realised through the notion of country.
Veronica Calarco is an Australian artist living in Wales. After completing a degree in Printmaking and a Postgraduate degree in Weaving at the Institute of the Arts, Australia National University in the mid 1990 she worked for a decade as a community artist in Canberra, The Kimberleys and Alice Springs, until eventually deciding to focus on her own art practice. In 2004 Veronica spent a two-month holiday in Wales. This led to nearly a decade of living between Wales and Australia, before she finally decided to settle more or less permanently in Wales. In 2014 Veronica took an ‘A’ level in Welsh and established Stiwdio Maelor, an artist residency program in Corris, Gwynedd. In 2015 she began her PhD in printmaking at Aberystwyth University School of Art.

djambie / ffrindiau represents two friends who travel through a land together. The two trees, with limbs wrapped together represent best friends. The print is part of a series of word images – each image in the series represents a word of the title of a myth, telling the tale of the two friends.

Parteong means baskets in Kurnai. This installation is a series of baskets made from discarded prints – mine and by other printmakers. Each basket tells a story, revealing the story the original printmaker is telling, the reason why they discarded the print, the giving of the print, the selection of the yarn and the shape the yarn, and prints create through the weaving.

This image is derived from a line in a Kurnai myth which tells of a beetle meeting two friends. The work was painted whilst completing a residency in South Australia, camping on land where a tree was separated from two other trees by a fence.
A great summation of the PhD work and approach.